Mae posib clywed sawl ymateb i’r newyddion yma; ‘Beth yw hynny?’ neu ‘Beth yw’r ots?!’ Natura 2000 – Beth yw hynny? Mae rhwydwaith Natura 2000 o safleoedd yn ffurfio rhwydwaith unigryw yn fyd-eang o ardaloedd wedi’u gwarchod sy’n ymestyn ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Yn ymestyn o gyrion Môr yr Iwerydd i’r Môr Du yn y Dwyrain, Môr y Canoldir yn y de a Chylch yr Arctig yn y Gogledd, dynodir Safleoedd Natura o dan y ddau ddarn mwyaf dylanwadol o ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n rhoi sylw i gadwraeth natur a’r amgylchedd. Mae’r Gyfarwyddeb Adar yn gwarchod pob aderyn gwyllt, eu nythod, eu hwyau a’u cynefinoedd yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae safleoedd o’r enw Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yn cael eu dosbarthu o dan y Gyfarwyddeb Adar er mwyn gwarchod adar sy’n brin neu’n agored i niwed yn Ewrop, gan gynnwys adar mudo rheolaidd ac ymwelwyr. Dynodir safleoedd o’r enw Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop ar gyfer cynefinoedd a bywyd gwyllt heb fod yn adar. Gyda’i gilydd, mae’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ffurfio rhwydwaith Natura 2000. Natura 2000 yng Ngwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yng Nghemlyn, Ynys Môn Ar y 10fed o Fehefin 1992, dosbarthodd Ysgrifennydd Gwladol y DU ar gyfer yr Amgylchedd safleoedd yn Ynys Feurig, Bae Cemlyn a’r Moelrhoniaid ar Ynys Môn fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) o dan y ‘Gyfarwyddeb Adar’. Ffocws y dynodiad hwn oedd bod y tri safle gyda’i gilydd yn cefnogi ‘poblogaethau magu o’r Fôr-wennol Wridog (ar y pryd nodwyd fel tri phâr neu 4.7% o boblogaeth fagu Prydain Fawr), y Fôr-wennol Gyffredin (189 o barau neu 1.5% o boblogaeth fagu Prydain Fawr), Môr-wennol y Gogledd (1290 o barau’n cynrychioli o leiaf 2.9% o boblogaeth fagu Prydain Fawr bryd hynny), a’r Fôr-wennol Bigddu (460 o barau’n cynrychioli 3.3% o boblogaeth fagu Prydain Fawr ar y pryd). Yn 2008, cyhoeddodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) – fel y sefydliad cadwraeth natur statudol yng Nghymru – Gynllun Rheoli ar gyfer AGA Ynys Feurig, Bae Cemlyn a’r Moelrhoniaid. Roedd ei weledigaeth yn cynnwys y datganiad y ‘dylai’r Safle gyfrannu at y boblogaeth fagu o fôr-wenoliaid ym Môr Iwerddon ac y dylid cynnal integriti’r Safle fel safle magu i’r Fôr-wennol Wridog, y Fôr-wennol Bigddu, Môr-wennol y Gogledd a’r Fôr-wennol Gyffredin – hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd pryd bydd un neu fwy o’r rhywogaethau nythu ddim yn bresennol. Ym mis Mehefin 2015, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (fel olynwyr Cyngor Cefn Gwlad Cymru) gynnig ffurfiol i Lywodraeth Cymru i ymestyn ac ailddosbarthu Ardal Gwarchodaeth Arbennig Ynys Feurig, Bae Cemlyn a’r Moelrhoniaid a’i hailenwi’n Ardal Gwarchodaeth Arbennig Môr-wenoliaid Ynys Môn. Mae’r ffin newydd ar gyfer yr AGA yn cynnwys, yn ychwanegol at y tri safle gwreiddiol, ardaloedd morol helaeth o amgylch arfordiroedd gorllewinol, gogleddol a dwyreiniol Ynys Môn (101,931.08 o hectarau i gyd). Yn ddiddorol roedd y ffigurau a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru yn 2015 ar gyfer niferoedd y môr-wenoliaid magu o amgylch arfordir gogledd Ynys Môn yn union yr un faint â’r rhai a ddarparwyd yn 1992. Yn gynnar yn 2017, ‘cymeradwyodd’ Llywodraeth Cymru’r ffin newydd arfaethedig sy’n cael ei hystyried yn gyfreithiol yn awr fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig botensial. Mae creu Ardal Gwarchodaeth Arbennig botensial yn dod ag ardal newydd fawr o arfordir a dyfroedd mewndirol Ynys Môn yn rhan o rwydwaith Natura 2000 ac o dan ddylanwad deddfwriaeth Ewropeaidd a chartref, yn ogystal â chreu cyfrifoldebau newydd i bobl sy’n gwneud penderfyniadau ac i gymunedau yn yr ardal.
Mae’r môr-lyn yng Nghemlyn nid yn unig yn rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig botensial Môr-wenoliaid Ynys Môn ond hefyd wedi’i ddynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig. Yn cael ei ystyried fel y môr-lyn arfordirol hallt gorau yng Nghymru, mae môr-lyn Cemlyn yn gynefin Ewropeaidd blaenoriaeth sy’n gartref i nifer o rywogaethau prin ac arbenigol, gan gynnwys cocos y môr-lyn a malwen y llaid y môr-lyn. Yn y DU ac yma yng Nghemlyn, efallai ein bod yn cyrraedd blwyddyn olaf ein haelodaeth lawn o’r Undeb Ewropeaidd ac mae Diwrnod Natura 2000 2018 yn cynnig cyfle i adlewyrchu yn ogystal â dathlu. Mae’r dyfodol yn ansicr o hyd i rwydwaith Natura 2000 yn y DU ond bydd y goblygiadau i integriti rhwydwaith Natura 2000 yn gyffredinol ac i’n bywyd gwyllt a’n cynefinoedd ni’n ddwys. Ar yr 21ain Mai 2018, bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, fel rhan o Brosiect LIFE y Fôr-wennol Wridog, yn nodi Diwrnod Natura 2000 yng Ngwarchodfa Cemlyn yng Ngogledd Ynys Môn.
0 Comments
Mae newyddion yn trafaelio yn cyflym yn nghymuned yr adarwyr – newyddion drwg hyd yn oed yng hynt. Yn Cemlyn mae hi ‘n dra ddistaw. Yn gynharach eleni ac yn dilyn amrediad o dymhorau bridio gwych, gosodwyd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda chymorth gan Prosiect LIFE y Môr-wennol wridog, rafftiau ar y lagŵn yng Nghemlyn. Mesur gweithredol oedd hyn i annog y môr-wennol gyffredin, i amddiffyn adar bridio yn erbyn cael eu rheibio ac i leddfu “pwysa” ar y safle nythu gan fod nythfa’r môr-wennoliaid pigddu yn tyfu’n gyson. Cynamserol roedd ein gobeithion cynnar am 2017 ac rydym yn dra siomedig i orfod adrodd, er y cychwyniad da, y bod 2017 wedi bod yn flwyddyn anodd dros ben ac mae’r môr-wennoliaid wedi gadael eu nythod ac wedi gwasgaru. O ganol mis Mai ymlaen, fe ddaeth hi yn amlwg fod yr ynysoedd yn y lagŵn yng Nghemlyn yn cael eu poenydio gan ddyfrgwn – rhywogaeth sydd , fel y môr-wennoliaid, yn elw o amddiffyniad llywodraethol gre. Yn y dechrau targed yr ysglyfaethu oedd nythod y gwylanod penddu ond, fe oedd yr aflonyddwch a’r cynnwrf oedd wedi gael eu creu gan y rheibwyr hyn wedi cadw’r gwylanod ar môr-wennoliaid i ffwrdd o’r ynysoedd a’i nythod am gyfnod maith, yn aml ar nosweithiau gwlyb ac oer. Mae ysglyfaethu cytunedig ac hir dymor o rywogaethau amddiffynnol gan rywogaethau amddiffynnol arall yn creu penbleth rheolaeth cymhleth i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Yn dilyn trafodaethau hefo Cyfoeth Naturiol Cymru, gwneuthum nifer o ymdrechion i rwystro y rheibwyr ond ar y cyfan profodd rhain yn aflwyddiannus. Fel aeth y tymor bridio yn ei flaen fe aflonyddodd y môr-wennoliaid yn fwy-fwy ac fe grëwyd y nifer y nythod gweigion ragor o gyfleodd o reibio gan frain a gwylanod mawr. Cafwyd y rhan fwyaf o’r prif ddarn y cytref môr-wennoliaid ei adael erbyn 17ain o Fehefin ond, fe ymdrechodd môr-wennoliaid cyffredin, y Gogledd a’r bigddu nythu ar yr ynys leiaf yn y lagŵn. Er bod yna ffens wedi eu chodi i amddiffyn yr adar, yn y diwedd fe adawodd yr adar hyn hefyd . Nid yw rheibio ac aflonyddwch gan famaliaid y tir ac adar ar ffasiwn raddfa mor unigryw yng Nghemlyn neu gytrefi eraill; y digwyddiadau tebyg blaenorol yng Nghemlyn oedd yn 2007 a 2008. Yr adeg hyn y prif “droseddwyr” oedd crehyrod a gwyddau. Y peth pwysig nawr, fel yr oedd adeg hynny, y dylid Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ragweld ac ymateb i’r bygythiad o reibio. Fe fydd cynlluniau a mesuriadau hir dymor i amddiffyn y cytref mewn lle cyn i’r môr-wennoliaid ddychwelyd yn y Gwanwyn o 2018. Drwy gyd-weithio hefo mudiadau eraill gyda phrofiadau yn y maes hyn, fe fyddem yn gosod cyfres o fesurau mewn llaw er mwyn sicrhau y bydd môr-wennoliaid Cemlyn yn cael cyn gymaint o amddiffyniad ar siawns gorau o fridio a sydd bosib; wrth gwrs fe fydd y mesurau hyn yn cael eu trwyddedu’n briodol ac wedi eu caniatáu gan Gyfoeth Natur Cymru fel y awdurdod statudol amgylcheddol a trwyddedu rhywogaeth . Wedi rhoi gorau i fridio mae oedolion y môr-wennoliaid nawr yn bwrw eu plu ac wedi symud i ffwrdd o Gemlyn . Maent yn parhau i fwydo ar y heigiau o lymrïaid a silod mân o gwmpas arfordiroedd Ynys Môn. Yn yr wythnosau byr o’n Haf, mae’r nifer o bysgod o gwmpas arfordiroedd Ynys Môn yn rhoi nerth a maeth iddynt am y siwrnai hir i’r De.
Rydym yn gofyn i’n cymunedau arfordirol, pysgotwyr môr, cerddwyr ar Lwybr Arfordirol Môn a ein gwylwyr bywyd gwyllt gadw golwg allan am heidiau o fôr-wennoliaid pigddu – diddorol fydd gwybod ym mhle maent yn treulio amser cyn iddynt fudo i’r de am y gaeaf. Guest Blog by Alison - Swyddog Cymunedol y Môr-wennol gwridog Mae’n bur debyg eich bod chi wedi gweld y ffilm ac yn gyfarwydd â’r thema canolog, sef ‘o adeiladu ar eu cyfer, maen nhw’n siŵr o ddod’. Un o amcanion craidd Prosiect LIFE y Fôr-wennol Wridog yw i’w bartneriaid ymgymryd â gwell rheolaeth a darparu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer ail-ehangu’r Fôr-wennol Wridog yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. I’r safleoedd sy’n cymryd rhan yn y Prosiect lle mae’r Môr-wenoliaid Gwridog yn dal i ymweld ac yn magu, mae cynyddu eu niferoedd a’u cadernid yn cyflwyno llawer o heriau. I’r safleoedd sydd wedi’u gadael yn ddiweddar gan Fôr-wenoliaid Gwridog yn magu, a lle mae’n beth prin gweld yr adar yma hyd yn oed, mae brys cynyddol am reolaeth bositif, creu cynefinoedd a meddwl o’r newydd am y sefyllfa. Yng Ngwarchodfa Cemlyn, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n adeiladu ar draddodiad maith o reolaeth weithredol ac yn darparu cyfleoedd newydd i fôr-wenoliaid ffynnu, ac i’r fôr-wennol wridog ddychwelyd i ‘dir mawr’ Cymru. Wedi’i leoli oddi ar arfordir gogleddol Ynys Môn a glannau dwyreiniol Môr Iwerddon, mae Cemlyn yn leoliad sy’n cael ei drysori am ei olygfeydd nodedig, ei fywyd gwyllt trawiadol a’i hygyrchedd hwylus. Y mynediad hwylus yma a’i boblogrwydd gyda phob math o ymwelwyr sy’n gwneud Cemlyn yn unigryw ymhlith yr holl safleoedd sy’n cael eu rheoli fel rhan o Brosiect LIFE y Fôr-wennol Wridog. Mae Gwarchodfa Cemlyn wedi’i hamgylchynu gan ffermydd prysur a thir amaethyddol ac mae’n cynnwys môr-lyn mawr, wedi’i wahanu oddi wrth y môr gan esgair drawiadol o ro mân wedi’i chreu’n naturiol. I’r dwyrain, safle gorsaf niwclear Wylfa sydd amlycaf yn yr olygfa – sef ffocws ar hyn o bryd i gynigion am ail orsaf bŵer niwclear. Nid yw hygyrchedd hwylus Gwarchodfa Cemlyn, ei môr-lyn, yr ynysoedd a’r môr-wenoliaid yn nythu wedi’i gyfyngu i ymwelwyr dynol. Mae’r caeau, y tiroedd gwlyb a’r prysgwydd sy’n amgylchynu’r Warchodfa’n darparu mosaig cyfoethog o gynefinoedd ar gyfer llawer o rywogaethau o fywyd gwyllt, gan gynnwys mamaliaid ysglyfaethus sy’n croesi dyfroedd bas y môr-lyn i gyrraedd y poblogaethau o fôr-wenoliaid ar yr ynysoedd isel. Mae sawl rhywogaeth o adar ysglyfaethus i’w gweld yn rheolaidd yn yr ardal hefyd, ac mae gwylanod mwy’n ymwelwyr dyddiol. Mae Stad Cemlyn a’r ffermydd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond, mae’r môr-lyn a’r esgair o ro mân yng ngofal Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy’n rheoli’r Warchodfa ac yn darparu gwasanaeth warden haf i helpu lleihau’r tarfu ac yn monitro a rheoli’r safle’n ymarferol, yn ogystal â gweithio gyda’r cyhoedd sy’n ymweld a’r safle. Mae gweithio gyda’r gymuned a chefnogi gwasanaeth warden mewn safle mor hygyrch a phoblogaidd yn hanfodol er mwyn gwarchod buddiannau treftadaeth naturiol Cemlyn. Er bod yr esgair o ro mân yn ei ffurf bresennol yn ifanc o ran geomorffoleg, yn cael ei hysgwyd mewn stormydd, cafodd y môr-lyn y tu ôl i’r esgair ei greu yn yr ugeinfed ganrif. Mae gan Cemlyn le arbennig yn hanes cadwraeth, o gofio mai dyma un o’r llefydd cyntaf i elwa o reolaeth ragweithiol er lles ei hadar. Mae hanes y safle fel hafan i fyd natur yn clymu â stori Capten Vivian Hewitt, a ddaeth i ogledd Ynys Môn yn y 1930au, gan setlo ym Mryn Aber, sydd bellach yn dŷ mawr amlwg ym mhen gorllewinol Gwarchodfa Cemlyn. Yn ecsentrig cyfoethog, oherwydd ei hoffter o adar, aeth Capten Hewitt ati i adeiladu argae a chored yng Nghemlyn, i gymryd lle’r gors halen lanwol, gyda môr-lyn mawr a pharhaol yn loches i adar gwyllt. Mae ei waddol a’r gwaith o greu corff sefydlog o ddŵr gydag ynysoedd bychain yn darparu safleoedd nythu i fôr-wenoliaid Cemlyn, a thraddodiad cadarnhaol o reolaeth y mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n parhau ag o heddiw. Tan droad y mileniwm, roedd y Môr-wenoliaid Gwridog yn magu yng Nghemlyn ac o amgylch arfordir Ynys Môn. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac er bod y Môr-wenoliaid Gwridog wedi’u cofnodi yng Ngwarchodfa Cemlyn, nid ydynt wedi aros yn hir yma. I boblogaethau’r Fôr-wennol Gyffredin a Môr-wennol y Gogledd yng Nghemlyn, nid oedd 2016 yn flwyddyn fagu lwyddiannus iawn. Er hynny, parhaodd eu cymdogion mwy, y Môr-wenoliaid Pigddu, i ffynnu. Mae llwyddiant y boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghemlyn yn nodedig ac mae’n tua 20% o boblogaeth y DU ar hyn o bryd, a 3% o boblogaeth y byd. Mae’n sicr bod sawl rheswm dros anallu Môr-wenoliaid Cyffredin Cemlyn, a’r Môr-wenoliaid Pigddu, i fagu cywion – gan gynnwys ysglyfaethwyr ac, o bosib, cystadleuaeth am ofod nythu ar ynysoedd môr-lyn Cemlyn. Mae cystadleuaeth am ofod ar y ddwy ynys yn peri pryder mawr oherwydd y bygythiadau wrth i lefel y môr godi a hefyd y cynnydd yn nwyster y stormydd sy’n digwydd yma wrth i effeithiau newid hinsawdd ddod i’r amlwg. Mae ymchwydd y stormydd a thonnau mawr y môr wedi dod dros yr esgair o ro mân yng Nghemlyn yn amlach yn ddiweddar. Mae cynnal a chadw ynysoedd môr-lyn Cemlyn a chreu ‘gofod’ i fôr-wenoliaid yn magu wedi cyflwyno nifer o heriau eraill, ac un o’r rhain yw’r ‘tensiwn’ rhwng ‘dynodiadau’ cadwraeth natur Ewropeaidd sy’n gorgyffwrdd. Mae esgair a môr-lyn Cemlyn wedi’u dynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae’r môr-lyn ei hun yn nodwedd flaenoriaeth, yn darparu cynefin ar gyfer nifer o rywogaethau prin, gan gynnwys y Conopeum seurati bryosoaidd, cocos môr-lyn Cerastoderma glaucum, a malwen fwd môr-lyn Ventrosia ventrosa. Nid yw dim ond codi neu ehangu ynysoedd y môr-lyn er lles y môr-wenoliaid a’r adar magu eraill yn opsiwn syml o ystyried y potensial am effeithiau niweidiol ar nodweddion o ddiddordeb yr ACA. Fodd bynnag, mae Cemlyn a’r moroedd a’r arfordiroedd cyfagos ar Ynys Môn yn rhan hefyd o Ardal Gwarchodaeth Arbennig bosib Môr-wenoliaid Ynys Môn ac mae’n rhaid i YNGC, fel rheolwr y Safle, gynnal a diogelu cartref môr-wenoliaid Cemlyn hefyd. Er gwaetha’r tensiynau rheoli hyn, a gyda help Prosiect LIFE y Fôr-wennol Wridog, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi penderfynu parhau â thraddodiad Cemlyn o reolaeth ragweithiol a pharhau â’r gweithredu positif i wella cadernid môr-wenoliaid Cemlyn drwy ddarparu ‘rafftiau’ ar y môr-lyn. Mae’r rafftiau hyn yn efelychu cynefin nythu’r môr-wenoliaid ar yr esgair ac yn hafan ddiogel i gywion a rhieni fel ei gilydd – gan eu gwarchod rhag ysglyfaethwyr, aflonyddwch a lefelau’r dŵr yn newid. Mae’r rafftiau wedi’u hadeiladu o blastig wedi’i ailgylchu gyda haen o ro mân ar y top ac yn ddigon ysgafn i’w symud yn hawdd. Mae offer cynnal fertigol a thraws aelodau’n atal y gro mân rhag symud o gwmpas pan mae’n stormus ar y môr-lyn ac, i atal ysglyfaethwyr, mae ymylon uchel o bolycarbonad clir wedi cael eu hychwanegu. I osgoi defnydd gan wylanod Cemlyn ac adar ‘cynnar’ eraill nad oes cymaint o groeso iddynt, ni fydd staff YNGC yn angori’r rafftiau yn y môr-lyn nes ei bod yn amser i Fôr-wenoliaid y Gogledd a’r Môr-wenoliaid Cyffredin ddychwelyd. Bydd y defnydd o’r rafftiau’n cael ei fonitro drwy gydol 2017 gyda help y tîm o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r wardeniaid. Prif bwrpas y rafftiau yw helpu i greu cynefinoedd newydd a diogel i Fôr-wenoliaid y Gogledd a’r Môr-wenoliaid Cyffredin. Er hynny, drwy helpu’r rhywogaethau hyn, ac yn enwedig y Fôr-Wennol Gyffredin, gobaith YNGC yw creu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer dychweliad y Fôr-wennol Wridog, sydd â pherthynas yn aml (ac yn agos iawn yn achlysurol!) â’r Fôr-wennol Gyffredin.
‘O adeiladu ar eu cyfer, efallai y byddan nhw’n dod’. Alison Brown, Swyddog Cymunedol y Môr-wennol gwridog |
More Blogs to Read
AuthorThis blog is maintained by various people from the project team. Archives
August 2020
Categories
All
|