ROSEATE TERN LIFE PROJECT
  • News
  • Project
    • Objectives
    • Actions
    • Project sites >
      • Dalkey Island
      • Rockabill
      • Lady's Island Lake
      • Larne Lough
      • Skerries
      • Cemlyn Bay
      • Forth Islands
      • Coquet Island
      • Solent
    • Timeline
    • Expected results
    • Project partners
  • Roseate Tern
    • Identification
    • Threats
  • Documents
    • Reports
    • Guidance >
      • Anti-predator fencing
      • Canes to Deter Avian Predators
      • Chick Shelters
      • Decoys and Lures
      • Diversionary feeding
      • Habitat: Creation and Restoration
      • Managing Large Gulls
      • Monitoring Methods
      • Habitat: Rafts and Structures
      • Terraces and Nest Boxes
      • Vegetation Management
      • Prey ID Guide
    • Action Plan
    • Promo Materials
  • Multimedia
    • Coquet Infographic
    • Diet Infographic
    • Dalkey Infographic
    • Cemlyn infographic
    • Migration Infographic
    • Gallery
    • Videos
  • Seminars
    • Momentum Webinar
    • North Atlantic Webinar
    • Irish Sea Network
  • Cymraeg
  • Blog

Protecting the rarest breeding seabird in Europe

Mai 21ain 2018 yw Diwrnod Natura 2000!

18/5/2018

0 Comments

 
Mae posib clywed sawl ymateb i’r newyddion yma; ‘Beth yw hynny?’ neu ‘Beth yw’r ots?!’
 
Natura 2000 – Beth yw hynny?
Mae rhwydwaith Natura 2000 o safleoedd yn ffurfio rhwydwaith unigryw yn fyd-eang o ardaloedd wedi’u gwarchod sy’n ymestyn ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Yn ymestyn o gyrion Môr yr Iwerydd i’r Môr Du yn y Dwyrain, Môr y Canoldir yn y de a Chylch yr Arctig yn y Gogledd, dynodir Safleoedd Natura o dan y ddau ddarn mwyaf dylanwadol o ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n rhoi sylw i gadwraeth natur a’r amgylchedd.  
 
Mae’r Gyfarwyddeb Adar yn gwarchod pob aderyn gwyllt, eu nythod, eu hwyau a’u cynefinoedd yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae safleoedd o’r enw Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yn cael eu dosbarthu o dan y Gyfarwyddeb Adar er mwyn gwarchod adar sy’n brin neu’n agored i niwed yn Ewrop, gan gynnwys adar mudo rheolaidd ac ymwelwyr. Dynodir safleoedd o’r enw Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop ar gyfer cynefinoedd a bywyd gwyllt heb fod yn adar. Gyda’i gilydd, mae’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ffurfio rhwydwaith Natura 2000. 
Picture
Bae Cemlyn (c) Chris Wynne
Natura 2000 yng Ngwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yng Nghemlyn, Ynys Môn
 
Ar y 10fed o Fehefin 1992, dosbarthodd Ysgrifennydd Gwladol y DU ar gyfer yr Amgylchedd safleoedd yn Ynys Feurig, Bae Cemlyn a’r Moelrhoniaid ar Ynys Môn fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) o dan y ‘Gyfarwyddeb Adar’. Ffocws y dynodiad hwn oedd bod y tri safle gyda’i gilydd yn cefnogi ‘poblogaethau magu o’r Fôr-wennol Wridog (ar y pryd nodwyd fel tri phâr neu 4.7% o boblogaeth fagu Prydain Fawr), y Fôr-wennol Gyffredin (189 o barau neu 1.5% o boblogaeth fagu Prydain Fawr), Môr-wennol y Gogledd (1290 o barau’n cynrychioli o leiaf 2.9% o boblogaeth fagu Prydain Fawr bryd hynny), a’r Fôr-wennol Bigddu (460 o barau’n cynrychioli 3.3% o boblogaeth fagu Prydain Fawr ar y pryd). 
 
Yn 2008, cyhoeddodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) – fel y sefydliad cadwraeth natur statudol yng Nghymru – Gynllun Rheoli ar gyfer AGA Ynys Feurig, Bae Cemlyn a’r Moelrhoniaid. Roedd ei weledigaeth yn cynnwys y datganiad y ‘dylai’r Safle gyfrannu at y boblogaeth fagu o fôr-wenoliaid ym Môr Iwerddon ac y dylid cynnal integriti’r Safle fel safle magu i’r Fôr-wennol Wridog, y Fôr-wennol Bigddu, Môr-wennol y Gogledd a’r Fôr-wennol Gyffredin – hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd pryd bydd un neu fwy o’r rhywogaethau nythu ddim yn bresennol.
 
Ym mis Mehefin 2015, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (fel olynwyr Cyngor Cefn Gwlad Cymru) gynnig ffurfiol i Lywodraeth Cymru i ymestyn ac ailddosbarthu Ardal Gwarchodaeth Arbennig Ynys Feurig, Bae Cemlyn a’r Moelrhoniaid a’i hailenwi’n Ardal Gwarchodaeth Arbennig Môr-wenoliaid Ynys Môn. Mae’r ffin newydd ar gyfer yr AGA yn cynnwys, yn ychwanegol at y tri safle gwreiddiol, ardaloedd morol helaeth o amgylch arfordiroedd gorllewinol, gogleddol a dwyreiniol Ynys Môn (101,931.08 o hectarau i gyd). Yn ddiddorol roedd y ffigurau a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru yn 2015 ar gyfer niferoedd y môr-wenoliaid magu o amgylch arfordir gogledd Ynys Môn yn union yr un faint â’r rhai a ddarparwyd yn 1992. Yn gynnar yn 2017, ‘cymeradwyodd’ Llywodraeth Cymru’r ffin newydd arfaethedig sy’n cael ei hystyried yn gyfreithiol yn awr fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig botensial. 

Picture
Bae Cemlyn (c) Ben Stammers
Mae creu Ardal Gwarchodaeth Arbennig botensial yn dod ag ardal newydd fawr o arfordir a dyfroedd mewndirol Ynys Môn yn rhan o rwydwaith Natura 2000 ac o dan ddylanwad deddfwriaeth Ewropeaidd a chartref, yn ogystal â chreu cyfrifoldebau newydd i bobl sy’n gwneud penderfyniadau ac i gymunedau yn yr ardal. 
 
Mae’r môr-lyn yng Nghemlyn nid yn unig yn rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig botensial Môr-wenoliaid Ynys Môn ond hefyd wedi’i ddynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig. Yn cael ei ystyried fel y môr-lyn arfordirol hallt gorau yng Nghymru, mae môr-lyn Cemlyn yn gynefin Ewropeaidd blaenoriaeth sy’n gartref i nifer o rywogaethau prin ac arbenigol, gan gynnwys cocos y môr-lyn a malwen y llaid y môr-lyn. 
 
Yn y DU ac yma yng Nghemlyn, efallai ein bod yn cyrraedd blwyddyn olaf ein haelodaeth lawn o’r Undeb Ewropeaidd ac mae Diwrnod Natura 2000 2018 yn cynnig cyfle i adlewyrchu yn ogystal â dathlu. Mae’r dyfodol yn ansicr o hyd i rwydwaith Natura 2000 yn y DU ond bydd y goblygiadau i integriti rhwydwaith Natura 2000 yn gyffredinol ac i’n bywyd gwyllt a’n cynefinoedd ni’n ddwys.            
 
Ar yr 21ain Mai 2018, bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, fel rhan o Brosiect LIFE y Fôr-wennol Wridog, yn nodi Diwrnod Natura 2000 yng Ngwarchodfa Cemlyn yng Ngogledd Ynys Môn.         
       
0 Comments

Your comment will be posted after it is approved.


Leave a Reply.

    Picture
    Picture
    More Blogs to Read

    Author

    This blog is maintained by various people from the project team.

    Archives

    August 2020
    May 2020
    December 2019
    October 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    October 2017
    August 2017
    May 2017
    April 2017
    March 2017
    February 2017
    August 2016
    July 2016
    June 2016
    December 2015

    Categories

    All
    Art
    Cemlyn Bay
    Coquet Island
    Dalkey Islands
    Events
    Food
    Forth Islands
    Guest Blogs
    Habitat
    Isle Of May
    Larne Lough
    Migration
    Monitoring
    Natura 2000
    Networking
    People
    Predation
    Publications
    Rockabill
    Solent And Southampton
    Species Protection
    The Skerries
    Videos
    Welsh
    Ynys Feurig

    RSS Feed

Roseate Tern LIFE Project is supported by the LIFE Programme of the European Union
​LIFE14 NAT/UK/000394 ROSEATE TERN
  • News
  • Project
    • Objectives
    • Actions
    • Project sites >
      • Dalkey Island
      • Rockabill
      • Lady's Island Lake
      • Larne Lough
      • Skerries
      • Cemlyn Bay
      • Forth Islands
      • Coquet Island
      • Solent
    • Timeline
    • Expected results
    • Project partners
  • Roseate Tern
    • Identification
    • Threats
  • Documents
    • Reports
    • Guidance >
      • Anti-predator fencing
      • Canes to Deter Avian Predators
      • Chick Shelters
      • Decoys and Lures
      • Diversionary feeding
      • Habitat: Creation and Restoration
      • Managing Large Gulls
      • Monitoring Methods
      • Habitat: Rafts and Structures
      • Terraces and Nest Boxes
      • Vegetation Management
      • Prey ID Guide
    • Action Plan
    • Promo Materials
  • Multimedia
    • Coquet Infographic
    • Diet Infographic
    • Dalkey Infographic
    • Cemlyn infographic
    • Migration Infographic
    • Gallery
    • Videos
  • Seminars
    • Momentum Webinar
    • North Atlantic Webinar
    • Irish Sea Network
  • Cymraeg
  • Blog