Pam y Môr-wenoliaid Gwridog?
Môr-wenoliaid gwridog yw un o’r adar magu prinnaf yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, gyda dim ond ychydig mwy na 1,869 o barau magu yn 2016, mewn tair poblogaeth yn unig. Yn yr Undeb Ewropeaidd, dim ond mewn dwy ardal mae’n magu, yr Azores ac yng Ngogledd Orllewin Ewrop, o amgylch Môr Iwerddon a Môr y Gogledd. Nid yw’r ddwy boblogaeth benodol yma’n cyfnewid unigolion ac maent yn gaeafu mewn gwahanol ardaloedd.
Mae gan fôr-wenoliaid gwridog ofynion arbenigol o ran bwydo a chynefin nythu ac mae’n bur debyg felly eu bod wedi bod yn brin ac yn lleol erioed yn y DU ac Iwerddon. Bu bron i’r rhywogaeth ddiflannu’n llwyr wrth iddi gael ei hecsbloetio ar gyfer y fasnach gwneud hetiau yn ystod yr 19eg ganrif, ond llwyddodd i adfer ar ddechrau’r 20fed ganrif o ganlyniad i ddeddfwriaeth i’w gwarchod a’i rheoli. Rhwng 1969 a 1992, dirywiodd poblogaeth y DU yn ddramatig o 1,018 o barau i 57 ac o 1,435 i 454 yn Iwerddon. Er nad ydyn ni’n deall achos y dirywiad yn y DU yn llawn o hyd, y gred oedd bod ysglyfaethwyr a tharfu ar boblogaethau magu’n rhai achosion, a hefyd colli cynefinoedd nythu ac effeithiau pysgota ar safleoedd gaeafu’r adar yng Ngorllewin Affrica.
Ble mae Môr-wenoliaid Gwridog yn magu?
Bydd y prosiect LIFE yma’n canolbwyntio ar y pum Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA[1]) yn y DU, ond dim ond un o’r rhain, Ynys Coquet yn Northumbria, sy’n cefnogi poblogaeth fagu ymarferol o fôr-wenoliaid gwridog. Yn 2000, i atal dirywiad y boblogaeth, gosododd yr RSPB flychau nythu i fôr-wenoliaid gwridog ar deras artiffisial ar Ynys Coquet. Mae’r blychau nythu’n gysgod i wyau a chywion y môr-wenoliaid rhag tywydd drwg a phrif ysglyfaethwyr eu nythod - gwylanod mawr. Ochr yn ochr â gwaith y wardeniaid, mae’r mesurau hyn wedi arwain at adfer y boblogaeth ac, yn 2015, roedd 111 o barau o fôr-wenoliaid gwridog yn nythu ar yr ynys. Hwn oedd y tro cyntaf i’r boblogaeth gyrraedd ffigurau trebl ers 40 mlynedd!
Yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae môr-wenoliaid gwridog yn magu mewn dwy boblogaeth, AGA Rockabill ac AGA Lady’s Island Lake. Mae trydedd ardal, AGA Ynysoedd Dalkey, yn darparu safle ar ôl magu yn bennaf. Yn 1989, cyflwynodd BirdWatch Ireland, sy’n rheoli Rockabill, wardeniaid ar y safle, gyda’r nod o warchod y môr-wenoliaid wrth iddynt nythu rhag i neb darfu arnynt (drwy gyflwyno polisi dim glanio) a gweithredu mesurau rheoli fel blychau nythu, rheoli llystyfiant a rheoli ysglyfaethwyr. O ganlyniad i’r ymyriadau hyn, yn 2016, roedd 1556 o barau o fôr-wenoliaid gwridog yn nythu yno, gan wneud Rockabill yn brif safle i boblogaeth Gogledd Orllewin Ewrop.
Mae’r Gwasanaeth Bywyd Gwyllt a Pharciau Cenedlaethol yn Iwerddon wedi cyflwyno mesurau cadwraeth tebyg ar safle Lady’s Island Lake, lle mae’r boblogaeth hefyd wedi adfer i 209 o barau yn 2016.

Prosiect LIFE
Sefydlwyd prosiect LIFE i Adfer y Fôr-wennol Wridog ym mis Tachwedd 2015 ac mae wedi cael ei gyllido am bum mlynedd gan gyllid LIFE yr UE gyda chyllideb o fwy na £2.5 miliwn. Pwrpas cyffredinol y prosiect hwn yw gwella cyfleoedd cadwraeth y fôr-wennol wridog yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Y nod fydd cyfrannu tuag at yr amcan tymor hwy o wella statws cadwraeth y fôr-wennol wridog ledled Ewrop gyfan.
Beth rydyn ni’n gobeithio’i gyflawni?
Mae’n hanfodol bod y safleoedd craidd (Ynys Rockabill a Lady’s Island Lake yn Iwerddon ac Ynys Coquet yn Lloegr) yn cael eu diogelu a’u gwella fel bod eu poblogaethau o fôr-wenoliaid yn parhau i ffynnu ac wedyn yn dechrau ehangu i lefydd eraill. Cyflawnir hyn drwy gynyddu’r wardeniaid, i warchod y poblogaethau rhag ysglyfaethwyr a rhag tarfu arnynt, yn ogystal ag i reoli’r cynefin. Hefyd bydd y prosiect yn adnewyddu stoc o flychau nythu, offer, adnoddau a llety i wardeniaid, wrth iddynt wylio’r poblogaethau’n llawn amser yn ystod y tymor magu.
Bydd y prosiect hefyd yn darparu amodau addas ar gyfer ailsefydlu mewn llefydd lle’r arferai’r fôr-wennol wridog fagu ar un adeg. Mae pump AGA wedi cael eu datgan fel llefydd posib ar gyfer ailsefydlu - y rhain yw: Ynys Feurig, Bae Cemlyn a’r Moelrhoniaid ar Ynys Môn, Solent a Southampton Water yn Hampshire, Ynysoedd Forth yn yr Alban, Larne Lough yng Ngogledd Iwerddon ac Ynysoedd Dalkey yn Iwerddon. Yn y llefydd hyn, byddwn yn cyflogi wardeniaid ac yn prynu adnoddau ac offer a chreu seilwaith llety. Bydd y wardeniaid yn gwneud yn siŵr nad oes pobl yn dod i’r ardaloedd hyn i darfu ar y môr-wenoliaid, ac yn eu gwarchod rhag ysglyfaethwyr. Mewn rhai llefydd, os bydd hynny’n bosib, byddwn yn rheoli’r cynefinoedd arfordirol, fel yr esgeiriau o ro mân a chorsydd halen, i ddarparu safleoedd nythu diogel i fôr-wenoliaid, heb beryglon llifogydd.
[1] Ardaloedd dan warchodaeth gaeth yw’r AGA ac maent wedi’u dynodi i warchod adar prin ac agored i niwed, yn unol ag Erthygl 4 Cyfarwyddeb Adar y Gymuned Ewropeaidd.

Bydd yr ynysoedd sydd wedi cael eu dewis ar gyfer ailsefydlu posib angen asesiad bioamrywiaeth yn sail i ddatblygu mesurau rheoli, a all gynnwys cael gwared ar lygod mawr. Mae llygod mawr yn gallu achosi colledion dinistriol o ran cynhyrchiant adar môr a gallant amharu ar boblogaethau neu eu difa’n llwyr. Os byddwn yn llwyddiannus, byddwn yn defnyddio abwyd ac yn hudo adar gydag offer sain i annog newydd-ddyfodiaid. Mae’n bosibilrwydd yn sicr ac er na allwn ni warantu y bydd hyn yn gweithio - mae’n rhaid i ni roi cynnig arni.
Mae’n werth crybwyll y bydd y Prosiect hwn yn cael effeithiau cadarnhaol ar adar môr eraill sy’n magu ac yn nythu ar safleoedd y Prosiect, yn enwedig y rhywogaethau eraill o fôr-wenoliaid, oherwydd byddant hwythau’n elwa o gynnydd mewn wardeniaid a mwy o reolaeth ar y safle.
Mae bygythiad mawr y bydd newid hinsawdd yn tarfu ar y gadwyn fwyd rhwng y söoplancton a’r pysgod sy’n dibynnu arno, gan gynnwys llysywod y tywod. Fel rhan o’r prosiect hwn, byddwn hefyd yn edrych ar y cyflenwad o fwyd i’r poblogaethau yma. Er ei bod yn anodd gwyrdroi effaith newid hinsawdd, byddwn yn hybu pysgodfeydd cynaliadwy er mwyn gwarchod poblogaethau o adar môr.
Erbyn diwedd prosiect LIFE, byddwn yn disgwyl i boblogaeth fagu’r DU o fôr-wenoliaid gwridog fod wedi cynyddu i o leiaf 120 o barau, a bydd poblogaeth fagu Gweriniaeth Iwerddon wedi cyrraedd 1,710 o barau.
Ein gwaith yng Nghymru
Yng Nghymru, rydyn ni’n gweithio gydag AGA arfaethedig Môr-wenoliaid Ynys Môn, sy’n cael ei chynnig fel estyniad morol ar AGA bresennol Ynys Feurig, Bae Cemlyn a’r Moelrhoniaid. Mae’r AGA arfaethedig yma’n cynnwys y dyfroedd arfordirol o amgylch gogledd a dwyrain Ynys Môn, gan gynnwys yr ardaloedd bwydo a ddefnyddir gan fôr-wenoliaid, yn ychwanegol at eu safleoedd magu. Er ei bod yn un AGA arfaethedig, mae’r safleoedd magu craidd mewn gwahanol leoliadau ac angen gwahanol ddulliau gweithredu. Rheolir Ynys Feurig a’r Moelrhoniaid gan yr RSPB, ac mae Ynys Feurig yn grŵp o greigiau ger y lan a’r Moelrhoniaid yn ynys yn y môr. Mae’r ddau safle’n croesawu poblogaethau sylweddol o fôr-wenoliaid y gogledd a’r fôr-wennol gyffredin ac angen gwasanaeth warden tymhorol 24 awr y dydd. Mae Rockabill yr ochr arall i Fôr Iwerddon a thrwy ddarparu blychau nythu, gwasanaeth wardeniaid a rheoli’r cynefin, rydyn ni’n gobeithio llwyddo i annog rhai môr-wenoliaid gwridog i ddod yma o Iwerddon.
Rheolir Bae Cemlyn gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac mae’n lagŵn llanwol wedi’i gysgodi rhag y môr gan esgair o ro mân. Yma, môr-wennol y Gogledd yw’r diddordeb mwyaf, ei hunig boblogaeth yng Nghymru. Yn wahanol i’r Moelrhoniaid ac Ynys Feurig, mae Bae Cemlyn yn dioddef o famaliaid ac adar ysglyfaethus, sydd angen sylw dyddiol y wardeniaid. Mae posib mynd ar yr esgair o ro mân ar droed ac felly mae cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd, ond hefyd rhaid wrth reolaeth i atal tarfu ar y môr-wenoliaid. Mae’r môr-wenoliaid yn magu ar ddwy ynys fechan yn y lagŵn bas a bydd y rhain yn elwa hefyd o reolaeth sy’n cynyddu’r arwyneb sydd ar gael ar gyfer magu a gwarchod rhag ysglyfaethwyr.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Chantal Macleod-Nolan yn yr RSPB
Chantal.macleod-nolan@rspb.org.uk
Ffôn: 01767693585

Partneriaid
Yr RSPB
- Yr RSPB yw’r sefydliad anllywodraethol mwyaf ar gyfer bywyd gwyllt yn Ewrop, gyda mwy na 2000 o gyflogeion a mwy nag 17000 o wirfoddolwyr gweithredol, a hefyd mwy nag 1.1 miliwn o aelodau’n tanysgrifio. Mae’n rheoli mwy na 200 o warchodfeydd natur ledled y DU, dros bron i 145,000 o hectarau. Hefyd, mae’n gwneud amrywiaeth eang o waith ymchwil, ymgynghorol, addysgol ac eirioli. Mae’r RSPB wedi ymwneud â chadwraeth môr-wenoliaid gwridog - y rhywogaeth y bydd y prosiect a gynigir yma’n canolbwyntio arni - ers bron i 30 o flynyddoedd.
- BirdWatch Ireland yw’r sefydliad cadwraeth annibynnol mwyaf yn Iwerddon. Fe’i sefydlwyd yn 1968 ac ar hyn o bryd mae ganddo fwy nag 14,000 o aelodau a chefnogwyr a rhwydwaith lleol o 30 o ganghennau ledled y wlad. Prif nod BirdWatch Ireland yw gwarchod adar gwyllt a’u cynefinoedd yn Iwerddon. Er mwyn cyflawni’r amcan hwn, mae’n gwneud gwaith ymchwil ac arolygu helaeth, yn gweithredu prosiectau cadwraeth penodol ac yn rheoli rhwydwaith o warchodfeydd yn genedlaethol. Mae BirdWatch Ireland wedi ymwneud â chadwraeth môr-wenoliaid gwridog, mewn partneriaeth ag asiantaeth y wladwriaeth, y Gwasanaeth Bywyd Gwyllt a Pharciau Cenedlaethol (NPWS), ers 1989.
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yw’r unig sefydliad lleol sydd wedi ymrwymo i warchod yr amrywiaeth lawn o gynefinoedd a rhywogaethau ledled Gogledd Cymru er mwynhad pobl ac er lles bywyd gwyllt. Bellach mae’r sefydliad yn bodoli ers dros hanner can mlynedd ac mae wedi ehangu a datblygu i fod yn offeryn pwysig ac yn llais i gadwraeth natur, ac i bobl sy’n pryderu am ddyfodol eu hamgylchedd naturiol. Mae’r Ymddiriedolaeth Natur wedi ymwneud â chadwraeth môr-wenoliaid gwridog ers bron i 30 o flynyddoedd ac mae wedi rheoli Cemlyn, un o’r poblogaethau pwysicaf o fôr-wenoliaid yng Nghymru, ers 43 o flynyddoedd.