Mae’n bur debyg eich bod chi wedi gweld y ffilm ac yn gyfarwydd â’r thema canolog, sef ‘o adeiladu ar eu cyfer, maen nhw’n siŵr o ddod’. Un o amcanion craidd Prosiect LIFE y Fôr-wennol Wridog yw i’w bartneriaid ymgymryd â gwell rheolaeth a darparu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer ail-ehangu’r Fôr-wennol Wridog yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. I’r safleoedd sy’n cymryd rhan yn y Prosiect lle mae’r Môr-wenoliaid Gwridog yn dal i ymweld ac yn magu, mae cynyddu eu niferoedd a’u cadernid yn cyflwyno llawer o heriau. I’r safleoedd sydd wedi’u gadael yn ddiweddar gan Fôr-wenoliaid Gwridog yn magu, a lle mae’n beth prin gweld yr adar yma hyd yn oed, mae brys cynyddol am reolaeth bositif, creu cynefinoedd a meddwl o’r newydd am y sefyllfa. Yng Ngwarchodfa Cemlyn, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n adeiladu ar draddodiad maith o reolaeth weithredol ac yn darparu cyfleoedd newydd i fôr-wenoliaid ffynnu, ac i’r fôr-wennol wridog ddychwelyd i ‘dir mawr’ Cymru. Wedi’i leoli oddi ar arfordir gogleddol Ynys Môn a glannau dwyreiniol Môr Iwerddon, mae Cemlyn yn leoliad sy’n cael ei drysori am ei olygfeydd nodedig, ei fywyd gwyllt trawiadol a’i hygyrchedd hwylus. Y mynediad hwylus yma a’i boblogrwydd gyda phob math o ymwelwyr sy’n gwneud Cemlyn yn unigryw ymhlith yr holl safleoedd sy’n cael eu rheoli fel rhan o Brosiect LIFE y Fôr-wennol Wridog. Mae Gwarchodfa Cemlyn wedi’i hamgylchynu gan ffermydd prysur a thir amaethyddol ac mae’n cynnwys môr-lyn mawr, wedi’i wahanu oddi wrth y môr gan esgair drawiadol o ro mân wedi’i chreu’n naturiol. I’r dwyrain, safle gorsaf niwclear Wylfa sydd amlycaf yn yr olygfa – sef ffocws ar hyn o bryd i gynigion am ail orsaf bŵer niwclear. Nid yw hygyrchedd hwylus Gwarchodfa Cemlyn, ei môr-lyn, yr ynysoedd a’r môr-wenoliaid yn nythu wedi’i gyfyngu i ymwelwyr dynol. Mae’r caeau, y tiroedd gwlyb a’r prysgwydd sy’n amgylchynu’r Warchodfa’n darparu mosaig cyfoethog o gynefinoedd ar gyfer llawer o rywogaethau o fywyd gwyllt, gan gynnwys mamaliaid ysglyfaethus sy’n croesi dyfroedd bas y môr-lyn i gyrraedd y poblogaethau o fôr-wenoliaid ar yr ynysoedd isel. Mae sawl rhywogaeth o adar ysglyfaethus i’w gweld yn rheolaidd yn yr ardal hefyd, ac mae gwylanod mwy’n ymwelwyr dyddiol. Mae Stad Cemlyn a’r ffermydd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond, mae’r môr-lyn a’r esgair o ro mân yng ngofal Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy’n rheoli’r Warchodfa ac yn darparu gwasanaeth warden haf i helpu lleihau’r tarfu ac yn monitro a rheoli’r safle’n ymarferol, yn ogystal â gweithio gyda’r cyhoedd sy’n ymweld a’r safle. Mae gweithio gyda’r gymuned a chefnogi gwasanaeth warden mewn safle mor hygyrch a phoblogaidd yn hanfodol er mwyn gwarchod buddiannau treftadaeth naturiol Cemlyn. Er bod yr esgair o ro mân yn ei ffurf bresennol yn ifanc o ran geomorffoleg, yn cael ei hysgwyd mewn stormydd, cafodd y môr-lyn y tu ôl i’r esgair ei greu yn yr ugeinfed ganrif. Mae gan Cemlyn le arbennig yn hanes cadwraeth, o gofio mai dyma un o’r llefydd cyntaf i elwa o reolaeth ragweithiol er lles ei hadar. Mae hanes y safle fel hafan i fyd natur yn clymu â stori Capten Vivian Hewitt, a ddaeth i ogledd Ynys Môn yn y 1930au, gan setlo ym Mryn Aber, sydd bellach yn dŷ mawr amlwg ym mhen gorllewinol Gwarchodfa Cemlyn. Yn ecsentrig cyfoethog, oherwydd ei hoffter o adar, aeth Capten Hewitt ati i adeiladu argae a chored yng Nghemlyn, i gymryd lle’r gors halen lanwol, gyda môr-lyn mawr a pharhaol yn loches i adar gwyllt. Mae ei waddol a’r gwaith o greu corff sefydlog o ddŵr gydag ynysoedd bychain yn darparu safleoedd nythu i fôr-wenoliaid Cemlyn, a thraddodiad cadarnhaol o reolaeth y mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n parhau ag o heddiw. Tan droad y mileniwm, roedd y Môr-wenoliaid Gwridog yn magu yng Nghemlyn ac o amgylch arfordir Ynys Môn. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac er bod y Môr-wenoliaid Gwridog wedi’u cofnodi yng Ngwarchodfa Cemlyn, nid ydynt wedi aros yn hir yma. I boblogaethau’r Fôr-wennol Gyffredin a Môr-wennol y Gogledd yng Nghemlyn, nid oedd 2016 yn flwyddyn fagu lwyddiannus iawn. Er hynny, parhaodd eu cymdogion mwy, y Môr-wenoliaid Pigddu, i ffynnu. Mae llwyddiant y boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghemlyn yn nodedig ac mae’n tua 20% o boblogaeth y DU ar hyn o bryd, a 3% o boblogaeth y byd. Mae’n sicr bod sawl rheswm dros anallu Môr-wenoliaid Cyffredin Cemlyn, a’r Môr-wenoliaid Pigddu, i fagu cywion – gan gynnwys ysglyfaethwyr ac, o bosib, cystadleuaeth am ofod nythu ar ynysoedd môr-lyn Cemlyn. Mae cystadleuaeth am ofod ar y ddwy ynys yn peri pryder mawr oherwydd y bygythiadau wrth i lefel y môr godi a hefyd y cynnydd yn nwyster y stormydd sy’n digwydd yma wrth i effeithiau newid hinsawdd ddod i’r amlwg. Mae ymchwydd y stormydd a thonnau mawr y môr wedi dod dros yr esgair o ro mân yng Nghemlyn yn amlach yn ddiweddar. Mae cynnal a chadw ynysoedd môr-lyn Cemlyn a chreu ‘gofod’ i fôr-wenoliaid yn magu wedi cyflwyno nifer o heriau eraill, ac un o’r rhain yw’r ‘tensiwn’ rhwng ‘dynodiadau’ cadwraeth natur Ewropeaidd sy’n gorgyffwrdd. Mae esgair a môr-lyn Cemlyn wedi’u dynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae’r môr-lyn ei hun yn nodwedd flaenoriaeth, yn darparu cynefin ar gyfer nifer o rywogaethau prin, gan gynnwys y Conopeum seurati bryosoaidd, cocos môr-lyn Cerastoderma glaucum, a malwen fwd môr-lyn Ventrosia ventrosa. Nid yw dim ond codi neu ehangu ynysoedd y môr-lyn er lles y môr-wenoliaid a’r adar magu eraill yn opsiwn syml o ystyried y potensial am effeithiau niweidiol ar nodweddion o ddiddordeb yr ACA. Fodd bynnag, mae Cemlyn a’r moroedd a’r arfordiroedd cyfagos ar Ynys Môn yn rhan hefyd o Ardal Gwarchodaeth Arbennig bosib Môr-wenoliaid Ynys Môn ac mae’n rhaid i YNGC, fel rheolwr y Safle, gynnal a diogelu cartref môr-wenoliaid Cemlyn hefyd. Er gwaetha’r tensiynau rheoli hyn, a gyda help Prosiect LIFE y Fôr-wennol Wridog, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi penderfynu parhau â thraddodiad Cemlyn o reolaeth ragweithiol a pharhau â’r gweithredu positif i wella cadernid môr-wenoliaid Cemlyn drwy ddarparu ‘rafftiau’ ar y môr-lyn. Mae’r rafftiau hyn yn efelychu cynefin nythu’r môr-wenoliaid ar yr esgair ac yn hafan ddiogel i gywion a rhieni fel ei gilydd – gan eu gwarchod rhag ysglyfaethwyr, aflonyddwch a lefelau’r dŵr yn newid. Mae’r rafftiau wedi’u hadeiladu o blastig wedi’i ailgylchu gyda haen o ro mân ar y top ac yn ddigon ysgafn i’w symud yn hawdd. Mae offer cynnal fertigol a thraws aelodau’n atal y gro mân rhag symud o gwmpas pan mae’n stormus ar y môr-lyn ac, i atal ysglyfaethwyr, mae ymylon uchel o bolycarbonad clir wedi cael eu hychwanegu. I osgoi defnydd gan wylanod Cemlyn ac adar ‘cynnar’ eraill nad oes cymaint o groeso iddynt, ni fydd staff YNGC yn angori’r rafftiau yn y môr-lyn nes ei bod yn amser i Fôr-wenoliaid y Gogledd a’r Môr-wenoliaid Cyffredin ddychwelyd. Bydd y defnydd o’r rafftiau’n cael ei fonitro drwy gydol 2017 gyda help y tîm o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r wardeniaid. Prif bwrpas y rafftiau yw helpu i greu cynefinoedd newydd a diogel i Fôr-wenoliaid y Gogledd a’r Môr-wenoliaid Cyffredin. Er hynny, drwy helpu’r rhywogaethau hyn, ac yn enwedig y Fôr-Wennol Gyffredin, gobaith YNGC yw creu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer dychweliad y Fôr-wennol Wridog, sydd â pherthynas yn aml (ac yn agos iawn yn achlysurol!) â’r Fôr-wennol Gyffredin.
‘O adeiladu ar eu cyfer, efallai y byddan nhw’n dod’. Alison Brown, Swyddog Cymunedol y Môr-wennol gwridog
0 Comments
Your comment will be posted after it is approved.
Leave a Reply. |
More Blogs to Read
AuthorThis blog is maintained by various people from the project team. Archives
August 2020
Categories
All
|