ROSEATE TERN LIFE PROJECT
  • News
  • Project
    • Objectives
    • Actions
    • Project sites >
      • Dalkey Island
      • Rockabill
      • Lady's Island Lake
      • Larne Lough
      • Skerries
      • Cemlyn Bay
      • Forth Islands
      • Coquet Island
      • Solent
    • Timeline
    • Expected results
    • Project partners
  • Roseate Tern
    • Identification
    • Threats
  • Documents
    • Reports
    • Guidance >
      • Anti-predator fencing
      • Canes to Deter Avian Predators
      • Chick Shelters
      • Decoys and Lures
      • Diversionary feeding
      • Habitat: Creation and Restoration
      • Managing Large Gulls
      • Monitoring Methods
      • Habitat: Rafts and Structures
      • Terraces and Nest Boxes
      • Vegetation Management
      • Prey ID Guide
    • Action Plan
    • Promo Materials
  • Multimedia
    • Coquet Infographic
    • Diet Infographic
    • Dalkey Infographic
    • Cemlyn infographic
    • Migration Infographic
    • Gallery
    • Videos
  • Seminars
    • Momentum Webinar
    • North Atlantic Webinar
    • Irish Sea Network
  • Cymraeg
  • Blog

Protecting the rarest breeding seabird in Europe

Un fôr-wennol ni wna wanwyn!

14/6/2018

0 Comments

 
Fe ddywedodd rhywun ryw dro ‘os prynwch chi boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu a chreu gwarchodfa natur ... mae’n bur debyg y byddan nhw’n talu’n ôl i chi’r flwyddyn ganlynol drwy nythu yn rhywle arall’. Roedd Rob Hume yn llygad ei le. Rhwng 2012 a 2016, roedd poblogaeth fagu’r Môr-wenoliaid Pigddu yng Nghemlyn yn 2400 o barau o oedolion ar gyfartaledd, gan fagu bron i 1000 o gywion bob blwyddyn. Môr-wenoliaid Cemlyn yw, neu oedd, 20% o boblogaeth y DU o Fôr-wenoliaid Pigddu, a 3% o holl boblogaeth y byd. Hefyd hon oedd yr unig boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghymru. Eleni mae Cemlyn yn gymharol dawel ac mae’r gri uchel, ansoniarus, ‘ERIC’, oedd yn arfer cyhoeddi dyfodiad yr haf yng ngogledd Ynys Môn, yn dawelach nag arfer. Beth sydd wedi digwydd?  
Picture
Sandwich terns at Cemlyn by Ben Stammers
Môr-wenoliaid Pigddu yw’r rhywogaeth fwyaf a thrymaf o’r rhywogaethau magu Prydeinig o fôr-wenoliaid ond, er gwaethaf eu maint, maent yn gymharol ddiniwed wrth amddiffyn eu nythod ac yn ymateb yn ddwys i aflonyddwch, ysglyfaethwyr ac, yn ôl pob tebyg i’r llygaid dynol, mympwy llwyr.                  
 
Yn 2017, cododd twf cyflym y boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghemlyn bryderon y byddai cystadleuaeth am ofod nythu yn erbyn rhywogaethau eraill Cemlyn o fôr-wenoliaid.  Gosodwyd rafftiau artiffisial yn eu lle ar fôr-lyn Cemlyn fel lle ychwanegol ar gyfer safleoedd nythu unrhyw Fôr-wenoliaid Cyffredin neu Fôr-wenoliaid y Gogledd oedd yn colli’u lle i’w cefndryd mwy. Ond, fel y digwyddodd pethau, nid oedd angen y safleoedd nythu ychwanegol. Yn ystod haf 2017, ni fu unrhyw nythu gan y Môr-wenoliaid Pigddu a’r rheswm (pennaf) am hynny oedd ysglyfaethwyr, teulu o ddyfrgwn yn tarfu arnyn nhw, a tharfu o fath arall. Roedd rhywogaethau eraill yn ychwanegu at y tarfu. Ni lwyddodd y Môr-wenoliaid Pigddu i fagu ac erbyn dechrau mis Mehefin 2017, roeddent i gyd wedi gadael Cemlyn a gogledd Ynys Môn heb fagu cywion.          
 
Mae Cemlyn yn rhan o rwydwaith Ewropeaidd o safleoedd ar gyfer cynefinoedd adar a bywyd gwyllt; rhwydwaith Natura 2000. Mae gan bob un o’r safleoedd hyn gynllun rheoli pwrpasol i warchod, cadw a chreu cadernid ar gyfer bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol. Ar gyfer Cemlyn, mae’r cynllun rheoli statudol yn cynnwys nodau penodol o ran darparu cynefin nythu i fôr-wenoliaid, os ydynt yn bresennol ai peidio. Yn unol â’r cynllun rheoli yma a’r nodau rhyngwladol tymor hir ar gyfer gwarchod a rheoli môr-wenoliaid, yn gynnar yn 2018, aeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ati i weithredu sawl prosiect, gan gynnwys creu gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, gwarchod y cynefinoedd nythu rhag ysglyfaethwyr, a rheolaeth heb ladd ar ysglyfaethwyr. Cyllidwyd y gwaith yma drwy Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a’r prosiect ‘gwella rhagolygon cadwraeth y rhywogaeth flaenoriaeth, y Fôr-wennol Wridog, ledled ei hardaloedd yn y DU ac Iwerddon’. 
Picture
An electric fence was put up at Cemlyn in spring to deter predators by Chris Wynne
​Er gwaetha’r ymdrechion hyn, ac er i gynefin nythu newydd, diogel gael ei greu, mae 2018 wedi bod yn flwyddyn nodedig – ond am y rhesymau anghywir. Eleni, mae llawer llai o Fôr-wenoliaid Pigddu wedi dychwelyd i Gemlyn ac nid ydym yn siŵr eto i ble mae’r adar eithriadol hardd yma a’u lleisiau sgrechllyd erchyll wedi mynd, ond mae Hodbarrow yn Cumbria yn cael blwyddyn arbennig o dda. Mae sawl ffactor yn gallu dylanwadu ar ddosbarthiad a llwyddiant magu môr-wenoliaid, ac yn sicr newid yn yr hinsawdd a’r tywydd o amgylch eu safleoedd magu yng ngogledd orllewin Ewrop, a hefyd eu tiriogaethau gaeafu yng Ngorllewin Affrica.
 
Tua diwedd gaeaf 2017/18 fe ddaeth yr hyn oedd yn cael ei alw’n ‘Fwystfil y Dwyrain’ ar ymweliad â ni – cyfnod estynedig o dywydd oer iawn ledled y DU. Er na fyddai’r oerni yma wedi cael effaith uniongyrchol ar y Môr-wenoliaid Pigddu a fyddai, ar y pryd, dal ar eu tiroedd gaeafu o amgylch arfordir Gorllewin Affrica, efallai bod yr oerni eithafol a gwyntoedd gogleddol a dwyreiniol cryf wedi effeithio ar eu mudo tua’r gogledd, a hefyd ar dymheredd y môr a dosbarthiad pysgod. Mae môr-wenoliaid sy’n cyrraedd y DU ar ôl siwrnai faith a llafurus yn dibynnu ar lysywod y tywod fel tanwydd i’w hadfywio cyn magu, i’w cyflwyno i’w cymar fel cymhelliant i baru ac, yn y pen draw, i fwydo eu cywion ifanc. Yng Ngwanwyn 2018, roedd y gwyntoedd gogledd ddwyreiniol yn parhau i reoli’r patrymau tywydd ac wedi sgyrsiau anffurfiol gyda physgotwyr môr a physgotwyr cychod siarter o amgylch arfordir Môn, clywsom am absenoldeb llysywod y tywod mewn ardaloedd arfordirol, yn ogystal â thymheredd anghyffredin o oer yn y dŵr ym misoedd Ebrill a Mai. Efallai, wrth i’r haf fynd yn ei flaen, y daw llysywod y tywod a’r pysgod bach sy’n sail i ddeiet y môr-wenoliaid yn eu hôl. Er hynny, efallai y bydd yn rhy hwyr i annog niferoedd mawr o Fôr-wenoliaid Pigddu i setlo a magu yng Nghemlyn eleni.    
Picture
Sandwich Tern pair at nest feeding chick by Chris Gomersall (rspb-images.com)
 Mae’n wir bod tarfu gan ysglyfaethwyr yn 2017 wedi arwain mae’n bur debyg at y tair rhywogaeth o fôr-wenoliaid sy’n dod i Gemlyn yn gadael eu nythod. Er hynny, byddai’n simplistig awgrymu bod yr ysglyfaethwyr hyn wedi ‘achosi’ i’r Môr-wenoliaid Pigddu osgoi’r safle eleni. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi gwneud gwaith sylweddol i atal ysglyfaethwyr ac mae’r wardeiniaid haf, Tim a Tarik, wedi dweud nad oes unrhyw ddyfrgwn wedi’u gweld ar ynysoedd y môr-lyn y Gwanwyn yma. Er gwaethaf anawsterau 2017, mae Cemlyn wedi llwyddo i ddenu Môr-wenoliaid Pigddu, Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd ac ar ddechrau mis Mehefin, wrth gyfrif, roedd tua 300 o nythod Môr-wenoliaid Pigddu - 10% o gyfrif y flwyddyn flaenorol. Mae dychweliad a phresenoldeb y môr-wenoliaid a’r gwylanod penddu’n rhoi rhyw obaith bod safle Cemlyn, gyda’i gynefin nythu newydd, gwell a ‘diogelach’, yn lle gwerth chweil i baru a magu cywion ifanc.          
 
Bydd rhaid aros a gwylio i weld a fydd tymor magu 2018 yn fwy llwyddiannus nag un 2017.       
0 Comments

Your comment will be posted after it is approved.


Leave a Reply.

    Picture
    Picture
    More Blogs to Read

    Author

    This blog is maintained by various people from the project team.

    Archives

    August 2020
    May 2020
    December 2019
    October 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    October 2017
    August 2017
    May 2017
    April 2017
    March 2017
    February 2017
    August 2016
    July 2016
    June 2016
    December 2015

    Categories

    All
    Art
    Cemlyn Bay
    Coquet Island
    Dalkey Islands
    Events
    Food
    Forth Islands
    Guest Blogs
    Habitat
    Isle Of May
    Larne Lough
    Migration
    Monitoring
    Natura 2000
    Networking
    People
    Predation
    Publications
    Rockabill
    Solent And Southampton
    Species Protection
    The Skerries
    Videos
    Welsh
    Ynys Feurig

    RSS Feed

Roseate Tern LIFE Project is supported by the LIFE Programme of the European Union
​LIFE14 NAT/UK/000394 ROSEATE TERN
  • News
  • Project
    • Objectives
    • Actions
    • Project sites >
      • Dalkey Island
      • Rockabill
      • Lady's Island Lake
      • Larne Lough
      • Skerries
      • Cemlyn Bay
      • Forth Islands
      • Coquet Island
      • Solent
    • Timeline
    • Expected results
    • Project partners
  • Roseate Tern
    • Identification
    • Threats
  • Documents
    • Reports
    • Guidance >
      • Anti-predator fencing
      • Canes to Deter Avian Predators
      • Chick Shelters
      • Decoys and Lures
      • Diversionary feeding
      • Habitat: Creation and Restoration
      • Managing Large Gulls
      • Monitoring Methods
      • Habitat: Rafts and Structures
      • Terraces and Nest Boxes
      • Vegetation Management
      • Prey ID Guide
    • Action Plan
    • Promo Materials
  • Multimedia
    • Coquet Infographic
    • Diet Infographic
    • Dalkey Infographic
    • Cemlyn infographic
    • Migration Infographic
    • Gallery
    • Videos
  • Seminars
    • Momentum Webinar
    • North Atlantic Webinar
    • Irish Sea Network
  • Cymraeg
  • Blog