Dyma wardeniaid Cemlyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Tarik Bodasing a Tim Morley, i adrodd stori am haf rhyfeddol. O safbwynt bod dynol, roedd tymor magu 2018 Cemlyn yn ymddangos fel un braidd yn rhyfedd. Ddechrau mis Mai, doedd prin ddim môr-wenoliaid i’w gweld na’u clywed yng Nghemlyn ac roedd y boblogaeth yn cynnwys Gwylanod penddu’n bennaf. Roedd pethau’n edrych yn ddu a dechreuodd y Wardeniaid feddwl tybed a fyddai ganddyn nhw swydd yn ystod y misoedd nesaf! Fodd bynnag, mae natur yn llwyddo i’n synnu ni’n gyson. Dechreuodd y Môr-wenoliaid Pigddu gyrraedd o ganol mis Mai ymlaen a setlo i lawr i fagu. Gwnaeth y Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd yr un peth ac erbyn diwedd mis Mai, cadarnhawyd bod 328 o Fôr-wenoliaid Pigddu (parau), 3 o Fôr-wenoliaid Cyffredin (parau) ac 8 o Fôr-wenoliaid y Gogledd (parau) yn nythu yn y boblogaeth. Efallai bod tywydd ffafriol misoedd Mehefin a Gorffennaf wedi hwyluso pysgota da, a gwelwyd adar yn chwilio am fwyd yn dod â llysywod y tywod i mewn wrth eu degau ar gyfer y cywion. Cawsom ein synnu wedyn ddiwedd mis Mehefin/dechrau mis Gorffennaf wrth i niferoedd y Môr-wenoliaid Pigddu ddyblu bron wrth i ddau griw newydd ymuno. Daeth y Wardeniaid i ddeall bod yr adar hyn wedi dod o RSPB Hodbarrow (Cumbria) fwy na thebyg, lle’r oeddent wedi methu magu y tymor yma. Roedd hyn yn hynod ddiddorol, gan fod Hodbarrow yn ymddangos fel safle magu arall i’r Môr-wenoliaid Pigddu hyn ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi cael ei ffafrio ganddynt o bosib. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gwybod, yn 2017 fe wnaeth y Môr-wenoliaid Pigddu a adawodd Cemlyn heb nythu yma ailsefydlu yn Hodbarrow a llwyddo i fagu tua 500 o gywion! Cadarnhawyd yn fuan mai 190 o barau o Fôr-wenoliaid Pigddu oedd y ddau haid newydd, a nifer o barau ychwanegol o Fôr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd, gan awgrymu bod rhai, ond nid y cyfan o’r newydd-ddyfodiaid, yn rhoi cynnig arall arni. Mae hyn yn dangos bod y môr-wenoliaid yn adar gwydn iawn a hefyd bod safleoedd unigol, er yn bwysig, yn cyflawni swyddogaeth fwy fel rhan o rwydwaith, gan alluogi rhywogaethau fel y môr-wenoliaid i adleoli, gan ddibynnu ar yr amodau lleol a’r tarfu ar safleoedd penodol. Gan feddwl am darfu, un pwynt nodedig y tymor hwn yw’r llai o aflonyddwch gan ysglyfaethwyr ar y boblogaeth. Er ein bod yn gwybod bod dyfrgwn, llwynogod a charlymod yn bresennol, ni welodd y Wardeniaid unrhyw ymgais i fynd ar yr ynysoedd. Roedd yr ysglyfaethwyr o’r awyr yn brin hyd yn oed ac nid oedd yr hebogau tramor na’r gwylanod mwy fel pe bai ganddynt ddiddordeb yn y boblogaeth. Mae’n anodd dweud a yw hyn oherwydd bod y boblogaeth yn llai y tymor yma (llai o atyniad i ysglyfaethwyr), neu efallai mai’r ffens drydan sy’n gyfrifol am hyn, neu’r digonedd o ffynonellau o fwyd eraill, neu gyfuniad o’r rhain i gyd. Oherwydd bod llai o ysglyfaethwyr, mae’r Wardeniaid wedi gallu rheoli heb darfu, ac mae’n ymddangos fel pe bai hynny wedi talu ar ei ganfed y tymor yma. Erbyn hyn mae hi’n ddechrau mis Awst ac, yn ôl pob tebyg, yn ddiwedd un y tymor, ond eto, mae’r môr-wenoliaid yma o hyd! Mae’r nythwyr gwreiddiol wedi llwyddo i fagu amcangyfrif o 120 o gywion sydd wedi hedfan y nyth ac mae’r adar hyn i gyd wedi gadael y boblogaeth bellach. Symudodd y Môr-wenoliaid Pigddu oedd yn weddill i’r ynys lai yn fuan iawn, gan swatio gyda’i gilydd i sicrhau gwarchodaeth ychwanegol. Mae isafswm o 72 o gywion wedi’u gweld yn y grŵp newydd hwn ac rydym yn croesi ein bysedd y byddant yn llwyddo i hedfan y nyth cyn i’r oedolion deimlo’r angen i fudo. Mae’r Môr-wenoliaid Cyffredin wedi gwneud yn dda yn yr 2il haid hefyd, gan fagu 4 i 5 o gywion ychwanegol (ar ôl y don gyntaf o 8 cyw) i hedfan y nyth. Yn y cyfamser, dim ond cyfanswm o 4 i 6 cyw lwyddodd Môr-wenoliaid y Gogledd i’w magu. Wrth gwrs, nid yw tymor yng Nghemlyn yn gyflawn heb y Môr-wenoliaid Gwridog ac roeddem yn ffodus o gael sawl ymweliad ddiwedd mis Mehefin/dechrau mis Gorffennaf. Efallai y byddant yn dewis Cemlyn fel safle nythu unwaith eto yn fuan – amser a ddengys. Mae Môr-wenoliaid Pigddu Gogledd Cymru’n esiampl wych o sut gall safbwyntiau cychwynnol fod yn gamarweiniol. Roedd 2017 yn flwyddyn eithaf llwyddiannus i’r Môr-wenoliaid Pigddu fel rhywogaeth yn y diwedd, ac nid oedd yn dymor magu aflwyddiannus. Yn yr un modd, er gwaetha’r dechrau araf a phryderon am ragor o darfu, rhaid i dymor 2018 gyfrif fel un llwyddiannus hefyd, er bod llai o niferoedd yma. O bersbectif y môr-wenoliaid, eu nod hwy yw nythu a magu cywion i hedfan y nyth; nhw sy’n dewis ble maent yn gwneud hynny. Gall môr-wenoliaid ddelio â tharfu naturiol (fel y rhan fwyaf o rywogaethau o ffawna a fflora), ond weithiau mae arnynt angen ychydig o help llaw ar hyd y ffordd. Mae’r Wardeniaid yn teimlo ei bod wedi bod yn fraint cael treulio’r haf mewn llecyn mor arbennig, a gyda cherddorfa’r môr-wenoliaid yn gwmni, mae pawb ar eu hennill!
0 Comments
Your comment will be posted after it is approved.
Leave a Reply. |
More Blogs to Read
AuthorThis blog is maintained by various people from the project team. Archives
August 2020
Categories
All
|